Cwestiynau cyffredin

Pa gymorth byddaf i’n ei gael?

Bydd tîm Allweddi Caerffili yn un pwynt cyswllt ar gyfer landlordiaid a thenantiaid. Byddwn ni'n paru pob tenant priodol ag eiddo perthnasol. Yna, byddwn ni'n cynnal arolygiadau dilynol i sicrhau bod popeth yn mynd yn dda o ran y tenant a'r eiddo, a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw broblemau ac yn eich helpu chi i fynd i'r afael â nhw. Nid yw'r dull hwn yn cael ei sbarduno gan fusnes; mae'n rhan annatod o'n dull dewisiadau tai arloesol. Mae gennym ni gysylltiadau gweithio agos iawn â phob adran yn y Cyngor, Credyd Cynhwysol ac asiantaethau allanol eraill. Rydyn ni o'r farn y bydd y dull hwn o ran ailgartrefu yn gwella hirhoedledd unrhyw denantiaeth – drwy sicrhau cyd-ddealltwriaeth rhwng y landlord a'r tenant a thrwy sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar faterion tai.

Pa gytundebau fydd yn cael eu rhoi i'r tenantiaid?

Bydd landlordiaid yn darparu Tenantiaeth Fyrddaliadol Sicr ar gyfer pob tenant. Cyfrifoldeb y landlord fydd darparu'r holl ddogfennau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r denantiaeth newydd. Fel y landlord, dylech chi sicrhau eich bod chi'n gwirio bod y dogfennau hyn yn gyfreithlon ac yn addas i'r diben. Bydd y dogfennau hyn yn nodi'n glir yr hyn y gall y tenantiaid ei wneud yn yr eiddo, a'r hyn na allant ei wneud.

Pwy fydd yn gyfrifol am waith atgyweirio neu waith cynnal a chadw cyfredol?

Bydd y trefniadau gyda'r landlordiaid yn amrywio – mae'n bosibl y byddai'n well gan rai landlordiaid wneud eu trefniadau eu hunain, ac mae'n bosibl y byddai angen mewnbwn ar eraill. Bydd yn ofynnol bod gan y landlordiaid drefniadau ar waith o ran gwirio a chynnal a chadw offer nwy. Yn 2018, newidiwyd y gyfraith i adlewyrchu'r amod bod rhaid i unrhyw eiddo yn y sector rhentu preifat, sy'n cael ei osod am y tro cyntaf neu le mae'r denantiaeth yn cael ei hadnewyddu, gyrraedd sgôr o ‘E’ neu'n uwch o ran perfformiad ynni. Gallai unrhyw eiddo sy'n torri'r amod hwn wynebu cosb sifil o hyd at £5,000. Rhaid i bob eiddo gydymffurfio â'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (‘HHSRS’).

Beth am y biliau?

Bydd y tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo yn gyfrifol am yr holl filiau Treth y Cyngor, dŵr a thanwydd. Byddwn ni wrth law i roi unrhyw gyngor a chymorth sydd eu hangen.

Rhent?

Bydd y trefniadau ar gyfer casglu rhent oddi wrth eich tenant yn cael eu sefydlu fel ei fod yn mynd atoch chi'n uniongyrchol. Byddwn ni'n rhoi cyngor i chi ynglŷn â lefelau rhent y farchnad ac yn cytuno ar gyfradd rentu gyda chi. Ni fydd Allweddi Caerffili yn gyfrifol am unrhyw achosion pan fydd y tenant wedi mynd yn groes i'r denantiaeth, e.e. ôl-ddyledion rhent neu pan fo'r tenant wedi ymadael â'r eiddo. Fodd bynnag, byddwn ni ar gael i roi cyngor a chymorth. Os byddwch chi'n casglu rhent mewn arian parod, mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol i gael llyfr rhent. Os bydd angen cymryd camau cyfreithiol, gallwn ni eich helpu chi a'ch cynghori, lle bo hynny'n briodol. Fel y landlord, byddwch chi'n gyfrifol o hyd am eich eiddo ac unrhyw rwymedigaethau cysylltiedig. Fodd bynnag, drwy ein harbenigedd a'n cymorth, byddwn ni'n ceisio lleihau'r risg y byddwch chi’n wynebu'r problemau hyn. Dylech chi hefyd sicrhau eich bod chi'n ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ar y mater hwn.

Faint o rent byddaf yn ei gael?

Ar ôl asesu'ch eiddo, byddwn ni'n trafod lefelau rhent y farchnad, a gyda'n gilydd byddwn ni'n gwneud penderfyniad am eich cyfradd rhent.

Pa fathau o eiddo sy'n addas?

Mae gennym ni ddiddordeb mewn eiddo heb ddodrefn, sydd ag un, dwy, tair neu bedair ystafell wely. Fodd bynnag, gall y math o eiddo sydd ei angen arnom ni, a'r ardaloedd lle mae angen cartrefi arnom ni, amrywio dros amser.

Ble mae angen eiddo?

Byddwn ni'n ystyried pob ardal ac eiddo, waeth beth fo'r galw.

Beth os oes angen uwchraddio fy eiddo?

Gallwn ni roi gwybodaeth/cymorth i chi ynglŷn â'r grantiau/benthyciadau bach sydd ar gael er mwyn sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio. Gallwn ni roi cyngor am ddim ynglŷn ag asesiadau'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (‘HHSRS’) a'r Dystysgrif Perfformiad Ynni (‘EPC’).

Gofynion Rhentu Doeth Cymru?

O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae rhwymedigaethau cyfreithiol ar landlordiaid sydd ag eiddo rhent yng Nghymru. Yn achos pob landlord sydd ag eiddo rhent yng Nghymru sy'n cael ei osod ar Denantiaeth Sicr, Tenantiaeth Fyrddaliadol Sicr neu Denantiaeth Reoleiddiedig, mae'n rhaid iddyn nhw gofrestru - £33.50 ar-lein. Yn achos landlordiaid sy'n cyflawni'r gwaith gosod a rheoli o ran eu heiddo rhent yng Nghymru, mae'n ofynnol iddyn nhw wneud cais am drwydded - £144.00 ar-lein.