Cynllun y Cyngor yn cynnig cartref i bobl sy’n cysgu ar y stryd

1 November, 2019
Sadie O’Connor (Senior Housing Advice Officer), Byron Jones (Homeless Prevention Officer) & Suzanne Cousins (Housing Solutions Manager) prepare to show prospective tenants their new home

Sadie O’Connor (Senior Housing Advice Officer), Byron Jones (Homeless Prevention Officer) & Suzanne Cousins (Housing Solutions Manager) prepare to show prospective tenants their new home

Mae cynllun a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i helpu i atal digartrefedd bellach wedi’i ehangu i roi cartrefu i bobl sy’n cysgu ar y stryd.

Mae menter Allweddi Caerffili wedi’i lansio gan y Cyngor i helpu i ddod o hyd i gartrefi cynaliadwy i’r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac ar yr un pryd yn helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid addas, hirdymor.  Ers ei lansio ym mis Awst 2018 mae’r cynllun wedi llwyddo i gefnogi 46 o aelwydydd i mewn i dai tymor hir.

Mae un landlord preifat yn ardal Caerffili bellach wedi cynnig darparu cartref diogel i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn y Fwrdeistref Sirol.  Mae paratoadau ar y gweill ar hyn o bryd i ddau berson symud i’w cartrefi newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Drwy’r cynllun, mae Allweddi Caerffili yn paru pobl ag eiddo addas ac yna’n gweithio gyda’r tenant a’r landlord i gynnal y denantiaeth.  Darperir y gwasanaeth yn rhad ac am ddim, gyda thîm Allweddi Caerffili yn trefnu i’r tenantiaid ymweld â’r eiddo ac ymweliadau monitro chwarterol.

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet dros Gartrefi a Lleoedd y Cyngor “Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a landlordiaid wrth wraidd llwyddiant Allweddi Caerffili.  Mae’r cynllun eisoes wedi sicrhau canlyniadau rhagorol o ran atal ddigartrefedd. Mae hefyd ddod o hyd i gartrefi i’r rhai sydd wedi bod yn byw ar ein strydoedd yn newyddion i’w groesawu’n fawr.

“Hoffwn ddiolch i’r landlordiaid sydd eisoes yn ymwneud ag Allweddi Caerffili ac annog eraill i weithio gyda ni i helpu i ddod â digartrefedd i ben yn y Fwrdeistref Sirol.”

Gall landlordiaid preifat a hoffai ddarganfod mwy am Allweddi Caerffili ffonio 01443 873564 neu e-bostio allweddicaerffili@caerffili.gov.uk