Amdanom ni

Mae Allweddi Caerffili yn brosiect sy’n cael ei arwain gan dîm Gwasanaethau Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid tymor hir ar gyfer eu heiddo, ac yn atal digartrefedd hefyd.

Mae cymorth tenantiaeth Allweddi Caerffili yn cael ei ddarparu gan y darparwr tai, Pobl Group, ac wedi’i ariannu gan Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru. Mae’r math o gymorth sy’n cael ei gynnig yn cynnwys rheoli tenantiaeth, cyllidebu, sicrhau’r incwm uchaf, lleddfu dyled, cymorth addysg, dysgu a chyflogaeth ac atgyfeirio at sefydliadau eraill.

Hefyd mae gennym ni Bartneriaeth Cymorth Hyblyg ar waith gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a fydd yn hyrwyddo pontio di-dor i Gredyd Cynhwysol i atal digartrefedd pellach trwy sicrhau bod taliadau uniongyrchol ar waith ar gyfer costau tai.

Bydd llwybr y cwsmer yn unigryw gan ddibynnu ar gymhlethdodau, ond bydd/gall cynnwys:

  • Cyfweliad cychwynnol Tai Preifat ac Asesu Personol
  • Apwyntiad cychwynnol gyda gweithiwr cymorth newydd 
  • Apwyntiad am gais newydd am Gredyd Cynhwysol neu newid mewn amgylchiadau.
  • Asesiad ac atgyfeiriad ar gyfer cymorth Dyled neu Cymorth Cyllidebu Personol
  • Nodi cymorth i denantiaid
  • Atgyfeiriad at yr asiantaeth briodol i oresgyn rhwystrau
  • Atgyfeiriad at Dîm Adfywio Cymunedol Caerffili ar gyfer cymorth cyflogaeth
  • Apwyntiadau cymorth parhaus yn ôl yr angen.