Prydlesu Allweddi Caerffili

Mae Prydlesu Allweddi Caerffili yn cael ei ariannu drwy ddarpariaeth Cynllun Lesio Cymru, sy’n ceisio darparu mynediad at dai fforddiadwy, o ansawdd da a hirdymor i unigolion neu deuluoedd sy’n wynebu digartrefedd.

Mae Prydlesu Allweddi Caerffili yn cynnig amrywiaeth sylweddol o fuddion i landlordiaid preifat wrth ddarparu mynediad hefyd at wasanaethau cymorth i ddeiliaid contract gyda’r nod o greu partneriaeth lwyddiannus hirdymor ar gyfer pob parti.

Mae’r cynllun yn cynnig pecyn rheoli eiddo cynhwysfawr llawn i landlordiaid, sy’n cynnwys gwaith atgyweirio, gwaith cynnal a chadw ac incwm rhent gwarantedig.

Dyma fuddion allweddol Prydlesu Allweddi Caerffili:

  • Incwm rhent gwarantedig am hyd y brydles i herio cyfeiriad y sector cyfwerth â Lwfans Tai Lleol, sy’n golygu dim ôl-ddyledion rhent a dim eiddo gwag.
  • Grantiau hyd at £9,999 ar gyfer eiddo gwag.
  • Grantiau gwella eiddo hyd at £5,000 i fodloni safonau gofynnol Llywodraeth Cymru.
  • Prydlesi 5 mlynedd o hyd.
  • Rheolaeth lawn yn rhad ac am ddim ar yr eiddo a’r tenant am oes y brydles.
  • Yn cynnwys archwiliadau eiddo, atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw (yn amodol ar draul resymol).
  • Rheoli tenantiaeth wedi’i deilwra a chymorth tai parhaus wedi’u darparu i’r holl denantiaid drwy ein tîm cymorth
  • Bydd yr eiddo yn cael ei ddychwelyd i chi yn yr un cyflwr ag yr oedd ar ddechrau’r brydles.
  • Bydd angen i aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili arolygu’r eiddo.