Mae Allweddi Caerffili yn brosiect sy’n cael ei arwain gan dîm Gwasanaethau Tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid tymor hir ar gyfer eu heiddo, ac yn atal digartrefedd hefyd.
Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth effeithiol, gan weithio gyda phartneriaid i wella mynediad at dai addas a fforddiadwy.